SL(6)430 – Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) (Dirymu) 2023

Cefndir a Diben

Mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW) yn pennu’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i fframweithiau prentisiaethau Cymreig cydnabyddedig gael eu dyroddi. Addaswyd Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru gan Orchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023 (y “Gorchymyn Addasu”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu'r Gorchymyn Addasu o ganlyniad i 13 o bwyntiau adrodd technegol a nodir yn Adroddiad y Pwyllgor ar y Gorchymyn Addasu.

Gwnaed y Gorchymyn hwn ar 7 Rhagfyr 2023 a daeth i rym ar 9 Rhagfyr 2023.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Gorchymyn o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn fod y confensiwn 21 diwrnod yn cael ei dorri (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fynd heibio rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a nodwn yr esboniad a ganlyn am dorri’r confensiwn a roddodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 8 Rhagfyr 2023:

“…Diben y Gorchymyn [Addasu] oedd gwneud newidiadau i'r [SASW] i gefnogi nodau polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phrentisiaethau.

Mae’r Fanyleb yn pennu’r gofynion y mae rhaid eu bodloni er mwyn i fframweithiau prentisiaethau Cymreig cydnabyddedig gael eu dyroddi o dan adran 19(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 ("Deddf 2009").

… Ar ôl derbyn adroddiad gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad daeth yn amlwg bod diffygion technegol yn y Gorchymyn a fyddai'n ei atal rhag gweithio fel y bwriadwyd. Felly mae angen dirymu'r Gorchymyn Addasu cyn iddo ddod i rym ar 11 Rhagfyr.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

10 Ionawr 2024